Acts 6:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr dauddec a alwasont y lliaws discipulon yn‐cyd, ac a ddywetsont, Nid yw cymmesur g ady o hanam g air Dew a’ gwasadaethy yr bordae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi galw attynt liaws y disgyblion, y deuddeg a ddywedasant, Nid yw’n dda genym i ni, gan ymadael â Gair Duw, wasanaethu byrddau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A galwodd y deuddeg y lliaws disgyblion atynt, a dywedyd, “Nid da ein bod ni’n gadael gair Duw a gweini wrth fyrddau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r Deuddeg yn galw'r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy'n gwaith ni, dim trefnu'r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd y Deuddeg gynulleidfa'r disgyblion atynt, a dweud, "Nid yw'n addas ein bod ni'n gadael Gair Duw, i weini wrth fyrddau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Deuddeg, wedi galw y lliaws dysgyblion atynt, a ddywedasant, Nid yw yn ddymunol i ni i roddi gair Duw i fyny á gwasanaethu byrddau.