Acts 6:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hyny vroder, edrychwch yn eich plith am seith‐wyr da ei gair, ac yn gyflawn o’r Yspryt glan, ac o ðoethinep, yr ei a ’osotom yddyn y gorchwyl hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrychwch, gan hyny, frodyr, am seithwyr o’ch plith i’r rhai y tystiolaethir, yn llawn o’r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ar y gorchwyl hwn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
edrychwch, frodyr, am saith o wŷr o’ch plith ag iddynt air da, yn llawn ysbryd a doethineb, i ni i’w gosod ar hyn o orchwyl;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o'r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o'ch plith — dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o'r Ysbryd Glân — dynion sy'n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni'n mynd i roi'r cyfrifoldeb yma iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dewiswch, gyfeillion, saith o ddynion o'ch plith ac iddynt air da, yn llawn o'r Ysbryd ac o ddoethineb, ac fe'u gosodwn hwy ar hyn o orchwyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond edrychwch allan, frodyr, am saith o wyr o'ch plith eich hunain, i'r rhai y dygir tystiolaeth dda, llawn o'r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ni ar y gorchwyl hyn.