Acts 6:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac boddlawn vu gan yr oll lliaws yr amadrodd hynny. Ac wy a dd etholesant Stephan gwr yn llawn o ffydd ac or Yspryt glan, ac Philip, ac Proch o rus, ac Nicanor, ac Timon, ac Parm e nas, ac Nic o las y proselyt o Antiocheia,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A boddhaol oedd yr ymadrodd yngolwg yr holl liaws; ac etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd a’r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A bu dda gan yr holl liaws y gair, ac etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd a’r Ysbryd Glân, a Phylip a Phrochorus a Nicanor a Thimon a Pharmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bodlon fu'r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y syniad yma'n plesio pawb, a dyma nhw'n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu'n gryf ac yn llawn o'r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bu eu geiriau yn gymeradwy gan yr holl gynulleidfa, a dyma ddewis Steffan, gu373?r llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Gln, a Philip a Prochorus a Nicanor a Timon a Parmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r ymadrodd oedd ddymunol yn ngolwg yr holl liaws: a hwy a etholasant Stephan, gwr llawn o ffydd ac o'r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: