Acts 6:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gair Dew a dyvodd, ac a liosocawdd niuer y discipulon yn‐Caerusalem yn ddir vawr, a’ thorfa vawr o’r Offeirait a vvyddesont ir ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gair Duw a gynnyddodd, ac amlhaodd rhifedi y disgyblion yn Ierwshalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chynyddai gair Duw, ac amlhâi nifer y disgyblion yng Nghaersalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ymostyngai i’r ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi'r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a ufuddhasant i'r ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu'n gyflym. Roedd nifer fawr o'r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Gair Duw'n mynd ar gynnydd. Yr oedd nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn lluosogi'n ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid hefyd yn ufuddhau i'r ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Gair Duw oedd yn cynyddu, ac yr oedd rhifedi y dysgyblion yn Jerusalem yn amlhau yn ddirfawr; hefyd tyrfa fawr o'r offeiriaid oeddent yn ufuddhau i'r ffydd.