Acts 7:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ei gwaredawð oei oll gyfingdereu, ac a roddes yddaw garueiddrwydd a’ doethinep yn‐golwc Pharao Vrenhin yr Aipht, yr hwn ei gwnaeth yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei oll tuy lvvyth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yr oedd Duw gydag ef, ac a ddug ef allan o’i holl orthrymderau, a rhoddes iddo ffafr a doethineb yngolwg Pharaoh brenhin yr Aipht, a gosododd efe ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dŷ.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac achubodd ef o’i holl gyfyngderau, a pheri iddo ffafr a doethineb ger bron Pharo, brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn lywodraethwr dros yr Aifft a’i holl dŷ.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yn ei achub o bob creisis. Roedd Duw wedi gwneud Joseff yn ddyn doeth iawn. Daeth i ennill parch y Pharo, brenin yr Aifft, a dyma'r Pharo yn ei benodi yn llywodraethwr ar y wlad gyfan, a'i wneud yn gyfrifol am redeg y palas brenhinol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac achubodd ef o'i holl gyfyngderau, a rhoddodd iddo ffafr a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn llywodraethwr dros yr Aifft a thros ei holl du375?.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a'i dygodd allan o'i holl orthrymderau, ac a roddodd iddo ffafr a doethineb yn ngolwg Pharaoh, brenhin yr Aipht: ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dy.