Acts 7:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd anvones Ioseph genadon ac a barawð ymoral vv am ei dad Iaco, ef a ei oll genedl, nid amgen pempthec a thri‐ugain enaid ie.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan ddanfon, Ioseph a alwodd atto Iacob ei dad a’i holl dylwyth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac anfonodd Ioseff i alw ato Iacob ei dad a’i holl gystlwn, hyd bymtheng enaid a thrigain,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a'i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Joseff yn cael Jacob a'r teulu cyfan (saith deg pump o bobl i gyd)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd Joseff, a galw Jacob ei dad ato, a'i holl berthnasau yn saithdeg pump o bobl i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Joseph a anfonodd, ac a gyrchodd Jacob ei dad, a'i holl dylwyth, yn bymtheg enaid a thri ugain.