Acts 7:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yd pan gyvodes Brenhin arall, yr vn nyd oedd yn adnabot Ioseph.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
hyd oni chyfododd brenhin arall dros yr Aipht, yr hwn nid adnabu Ioseph.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft, hyd oni chyfododd brenin gwahanol dros yr Aifft, na wyddai ddim am Ioseff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft — un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nes i frenin gwahanol godi ar yr Aifft, un na wyddai ddim am Joseff.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hyd nes y cyfododd brenhin gwahanol ar yr Aipht, yr hwn nid adnabu Joseph.