Acts 7:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn yma vu ddichellgar wrth ein Ryw ni, ac a ðrygawdd ein tadae, ac a barawdd yddynt vwrw allan ei plant newyddian, val na chaffent vot yn vyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn, gan ymddwyn yn ddichellgar â’n cenedl, a ddrygodd ein tadau, i fwrw allan eu babanod fel na chaent fyw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwnyma drwy ddichell yn erbyn ein cenedl ni a ddrygodd ein tadau, gan beri diymgeleddu eu babanod fel na byddent byw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buodd hwnnw'n gas iawn i'n pobl ni, a'u gorfodi nhw i adael i'w babis newydd eu geni farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu hwn yn ddichellgar wrth ein cenedl ni, gan gamdrin ein hynafiaid, a pheri bwrw eu babanod allan fel na chedwid mohonynt yn fyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn, gan ymddwyn yn ddichellgar at ein cenedl ni, a ddrwg‐driniodd ein Tadau, fel i achosi i'w babanod gael eu bwrw allan fel na chedwid hwy yn fyw.