Acts 7:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ynt ef ddyvot, A‐ wyr vroder, a’ thadae, gwrandewch. Dew yr gogoniāt a ymddango s awdd y dd ein tad Abraham, pan yt oedd ym‐Mesopotamia, cyn trigaw o honaw yn‐Charran,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd, Brodyr a thadau, gwrandewch. Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham pan ym Mesopotamia, cyn trigo o hono yn Charran,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eb yntau, “Frodyr a thadau, gwrandewch. Ymddangosodd Duw’r gogoniant i’n tad Abraham, ac yntau ym Mesopotamia, cyn iddo ymgartrefu yn Charran,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i'n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma oedd ateb Steffan: “Frodyr, ac arweinwyr parchus, gwrandwch arna i. Roedd y Duw gogoneddus wedi ymddangos i Abraham pan oedd e'n dal i fyw yn Mesopotamia — cyn iddo symud i Haran hyd yn oed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau: "Frodyr a thadau, clywch. Ymddangosodd Duw'r gogoniant i'n tad ni, Abraham, ac yntau yn Mesopotamia cyn iddo ymsefydlu yn Haran,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, O Wyr Frodyr a Thadau, gwrandewch. Duw y Gogoniant a ymddangosodd i'n Tad Abraham pan yn Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Haran,