Acts 7:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Moysen oedd ddyscedic yn oll ddoethinep yr Aiphtieit, ac ydd oeð yn nerthawc yn‐gairiae ac yn gweithreddedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac addysgwyd Mosheh yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid, ac yr oedd efe yn alluog yn ei eiriau a’i weithredoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyfforddwyd Moesen yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, a nerthol oedd yn ei eiriau a’i weithredoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag oedd e'n wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyfforddwyd Moses yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, ac yr oedd yn nerthol yn ei eiriau a'i weithredoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Moses a addysgwyd yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid; ac yr oedd efe yn alluog yn ei eiriau a'i weithredoedd.