Acts 7:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys tybiawdd ef vot ei vroder yn deall, bot i Ddew trwy y law ef roðy ymwaret yddwynt vvy: ac wy the ny’s dyall d esont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A meddyliodd fod ei frodyr yn deall fod Duw trwy ei law ef yn rhoddi ymwared iddynt; ond hwy ni ddeallent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tybiai y deallai ei frodyr fod Duw trwyddo ef yn estyn gwaredigaeth iddynt; hwythau, ni ddeallasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi ei anfon i'w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn tybio y byddai ei bobl ei hun yn deall fod Duw trwyddo ef yn rhoi gwaredigaeth iddynt. Ond nid oeddent yn deall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd efe yn tybied fod ei frodyr yn deall fod Duw trwy ei law ef yn rhoddi iddynt ymwared; ond hwy ni ddeallasant.