Acts 7:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dydd nesaf, yr ymddangosawð yddwynt ac wynt yn cynneny, ac a vynysei ei cymmodi drachefn, gan ddywedyt, A wyr, ydd y‐chwi yn vroder, paam yð yw chwi yn gwneythy cam aei gylyd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r dydd nesaf yr ymddangosodd iddynt pan yn ymrafaelio, a chymmodlonai hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych: paham y gwnewch gam â’ch gilydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Trannoeth eto yr ymddangosodd iddynt, a hwythau’n ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddywedyd, ‘Wŷr, brodyr ydych! Paham y gwnewch gam â’ch gilydd?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a'u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â'ch gilydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â'i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi'n frodyr i'ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth daeth ar draws dau ohonynt yn ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddweud, 'Ddynion, brodyr ydych; pam y gwnewch gam 'ch gilydd?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dydd canlynol yr ymddangosodd efe iddynt a hwy yn ymrafaelio, ac a ymdrechodd eu cymodi mewn heddwch, gan ddywedyd, O wyr, brodyr ydych: paham y gwnewch gam â'ch gilydd?