Acts 7:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y ffoes Moysen ar y gair hwnw, ac y bu yn wr dyvodiat yn‐tir Madian, lle cenedlodd ef ddau o veib ion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A ffodd Mosheh ar y gair hwn, ac aeth yn ymdeithydd yn nhir Madian, lle y cenhedlodd ddau fab.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ffodd Moesen ar y gair hwn, a daeth yn ddyfodiad yng ngwlad Madiam, lle y ganed iddo ddau fab.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o'r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a cafodd dau fab eu geni iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A ffodd Moses ar y gair hwn, ac aeth yn alltud yn nhir Midian, lle y ganwyd iddo ddau fab.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Moses a ffôdd ar y gair hwn, ac a fu ymdeithydd yn ngwlad Midian, lle y cenedlodd ddau o feibion.