Acts 7:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy cyflawny dauugain blyneð, ydd ymddangoses yddaw yn‐dyffeith vvch mynydd Sina, Angel yr Arglwydd mewn flamm dan, mewn perth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Sinai angel mewn fflam dân mewn perth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ymhen deugain mlynedd ymddangosodd iddo yn niffeithwch mynydd Sina angel mewn fflam dân o berth;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ymhen deugain mlynedd, fe ymddangosodd iddo yn anialwch Mynydd Sinai angel mewn fflam dn mewn perth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, Angel a ymddangosodd iddo yn Anialwch Mynydd Sinai mewn fflam dân mewn perth.