Acts 7:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi yw Dew dy dadae, Dew Abraham, a’ Dew Isaac, a’ Dew Iaco. Yno ydd echrenawdd Moysen, ac ny veiddiawdd synniaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham ac Itsaac ac Iacob. Ac wedi myned yn ddychrynedig, Mosheh ni feiddiai edrych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham ac Isaac ac Iacob,’ Ac aeth dychryn ar Foesen, ac ni feiddiai edrych.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o'i flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob.' Cafodd Moses fraw, ac ni feiddiai edrych.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Myfi yw Duw dy Dadau, Duw Abraham ac Isaac a Jacob. A Moses wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiodd sylwi yn fanwl.