Acts 7:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwelais, gwelais ðrug vyd ve‐popul, ys ydd yn yr Aipht, ac a glyweis ei griddfan, ac a ddescennais yw ymwared hvvy: ac yr owon dyre d, a’ mi ath dd anvonaf ir Aipht.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan weled y gwelais ddrygfyd Fy mhobl y sydd yn yr Aipht, ac eu gruddfan a glywais; a disgynais i’w gwaredu hwynt. Ac yn awr tyred, danfonaf di i’r Aipht.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwelais, do, gwelais ddrygu fy mhobl yn yr Aifft, a’u griddfan a glywais, a disgynnais i’w gwared hwynt; ac yn awr tyred, anfonaf di i’r Aifft.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan weled y gwelais ddrygfyd fy mhobl y rhai sydd yn yr Aifft, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynnais i'w gwared hwy. Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n griddfan a dw i'n mynd i'w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i'n mynd i dy anfon di yn ôl i'r Aifft.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais, do, gwelais sut y mae fy mhobl sydd yn yr Aifft yn cael eu camdrin, a chlywais eu griddfan, a deuthum i lawr i'w gwaredu. Yn awr tyrd, imi gael dy anfon di i'r Aifft.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan weled y gwelais ddrwg‐driniaeth fy mhobl sydd yn yr Aipht, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynais i'w gwaredu. Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aipht.