Acts 7:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y Moysen hwn, yr vn a wrthddodesont vvy, gan ddywedyt, Pwy ath roes di yn dywysoc ac yn varnwr? hwn yma a dd anvones Dew yn dywysawc, ac yn ymwaredwr trwy law Angel, yr hwn a ymddangosawð iddaw yn y berth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y Mosheh hwn, yr hwn a wadasant, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn, Duw a’i danfonodd yn llywodraethwr ac yn waredwr gyda llaw yr angel a ymddangosodd iddo yn y berth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y Moesen hwn, a wrthodasent, gan ddywedyd, ‘Pwy a’th osododd di yn lywodraethwr ac yn farnwr?’ hwn a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr trwy law’r angel a ymddangosodd iddo yn y berth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y Moses yma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi ei wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i'w harwain nhw a'u hachub nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y Moses hwn, y gu373?r a wrthodasant gan ddweud, 'Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr?' hwnnw a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr, trwy law'r angel a ymddangosodd iddo yn y berth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y Moses hwn yr hwn a wadasant, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn Llywodraethwr a Barnwr? hwn y mae Duw wedi ei anfon yn Llywodraethwr ac yn Waredwr gyda llaw yr Angel a ymddangosodd iddo yn y Berth.