Acts 7:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef e y duc wy allan, gan wneythy ryveðodae, a’ miracle yn‐tir yr Aipht, ac yn y mor coch, ac yn y dyffeith vvch, dros dauugain blyddet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, ar ol gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aipht ac yn y Môr Coch ac yn yr anialwch ddeugain mlynedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwn a’u dug hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aifft ac yn y Môr Coch ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y môr coch, ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o'r Aifft, drwy'r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hwn a'u harweiniodd hwy allan, gan wneud rhyfeddodau ac arwyddion yng ngwlad yr Aifft ac yn y Mr Coch, ac am ddeugain mlynedd yn yr anialwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aipht, ac yn y Môr Coch, ac yn yr Anialwch ddeugain mlynedd.