Acts 7:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd aeth ef allā o tir y Chaldaieit, ac y preswyliawdd yn‐Charran. Ac yn ol marw ei dad, y duc Devv ef o ddyno ir tir hyn, ydd y‐chwi yn preswyliaw ynddo yr awrhon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna, wedi myned allan o wlad y Caldeaid, trigodd yn Charran; ac oddiyno, wedi marw ei dad, y symmudodd Efe ef i’r wlad hon yn yr hon yr ydych chwi yr awr hon yn trigo:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna ymadawodd â gwlad y Chaldeaid ac ymgartrefodd yn Charran. Ac oddiyno wedi marw ei dad fe’i symudodd ef i’r wlad hon, y trigwch chwi ynddi yn awr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a'i symudodd ef i'r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly gadawodd wlad y Caldeaid, a setlo i lawr yn Haran. Wedyn, ar ôl i'w dad farw, dyma Duw yn ei arwain ymlaen i'r wlad yma dych chi'n byw ynddi nawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe aeth allan o wlad y Chaldeaid, ac ymsefydlodd yn Haran. Oddi yno, wedi i'w dad farw, fe symudodd Duw ef i'r wlad hon, lle'r ydych chwi'n preswylio yn awr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y daeth efe allan o wlad y Caldeaid, ac a breswyliodd yn Haran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, perodd Duw iddo ymfudo i'r wlad hon, yn yr hon yr ydych chwi yn awr yn trigo: