Acts 7:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ lloa wnaethant yn y dyddiae hyny, ac a offrymesont aberth ir ðelw a’ llawenhay a wnaethant yn‐gweithredoedd ei dwylaw y hunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwnaethant lo yn y dyddiau hyny, a daethant ag aberth i’r eulun, a llawenychasant yngweithredoedd eu dwylaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwnaethant lo yn y dyddiau hynny ac offrwm aberth i’r ddelw, a chaent hwyl ar gynnyrch eu dwylo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hynny, ac a offrymasant aberth i'r eilun, ac a ymlawenhasant yng ngweithredoedd eu dwylo eu hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi ei lunio â'i dwylo eu hunain!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaethant lo y pryd hwnnw, ac offrymu aberth i'r eilun, ac ymlawenhau yng nghynnyrch eu dwylo eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a wnaethant lo yn y dyddiau hyny, ac a ddygasant aberth i'r eilun, a llawenychasant yn ngweithredoedd eu dwylaw.