Acts 7:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd ymchwelawdd Dew ymaith, ac y rhoes hwy i vyny dd y n yd addolent i lu yr nef: megis y mae yn escriuenedic yn llyfer y Prophwyti. A Tuy yr Israel, a offrymesoch ymy aniueilieit wedy ei lladd ac aberthae dros, ddauugain blynedd yn y dyffeith?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A throdd Duw, a thraddododd hwynt i wasanaethu llu y nef; fel yr ysgrifenwyd yn llyfr y prophwydi, “Ai lladdedigion ac aberthau a offrymmasoch i Mi Ddeugain mlynedd yn yr anialwch, O dŷ Israel?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A throes Duw, a’u gadael i addoli llu’r ffurfafen, fel y mae’n ysgrifenedig yn Llyfr y Proffwydi: A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau y deugain mlynedd yn y diffeithwch, chwi dŷ Israel?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y trodd Duw, ac a'u rhoddes hwy i fyny i wasanaethu llu'r nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli'r sêr a'r planedau yn yr awyr. Dyma'n union beth sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A throes Duw ymaith, a'u rhoi i fyny i addoli sr y nef, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi: 'A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau am ddeugain mlynedd yn yr anialwch, du375? Israel?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Duw a drôdd, ac a'u rhoddodd hwy i fyny i wasanaethu llu y nef, megys y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr y Prophwydi, A offrymasoch i mi anifeiliaid lladdedig ac aberthau Ddeugain mlynedd yn yr Anialwch, O Dy Israel?