Acts 7:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chvvi gymer e soch y chvvy tabernacl Moloch, a’ seren eich Dew Rempham, ys ef, lluniae, ’rei a wnaethoch y aðoly yddwynt: am hyny ydd eich ysmutaf y tu hwnt i’r Babilou.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chymmerasoch i fynu dabernacl Moloc, A seren eich duw Remphan, Y lluniau y rhai a wnaethoch i’w haddoli hwynt; A symmudaf chwi tu hwnt i Babilon.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na, cymerasoch babell Moloch a seren y duw Rhomffa, y llunau a wnaethoch i’w haddoli. Ac alltudiaf innau chwi y tu hwnt i Fabilon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi a gymerasoch babell Moloch, a seren eich duw Remffan, lluniau y rhai a wnaethoch i'w haddoli: minnau a'ch symudaf chwi tu hwnt i Fabilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na! Mae'n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw'r sêr, a'r eilunod wnaethoch chi i'w haddoli nhw. Felly dw i'n mynd i'ch anfon chi'n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Na yn wir, dyrchafasoch babell Moloch, a seren eich duw Raiffan, y delwau a wnaethoch i'w haddoli. Alltudiaf chwi y tu hwnt i Fabilon.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chymerasoch i fyny Dabernacl Moloch, A Seren y duw Rephan, Y lluniau a wnaethoch, i'w haddoli hwynt: A mi a'ch caeth‐gludaf chwi tu hwnt i Babylon.