Acts 7:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
I ein tadae ydd oeð tabernacl y testoliaeth yn y diffaith vvch, mal ydd ordinesei ef, yn llavaru wrth Moysen, ar vod iddaw ei wneithyd yn ol y ffurf a welsei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tabernacl y dystiolaeth oedd gan ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchymynodd yr Hwn a lefarodd wrth Mosheh i’w wneuthur yn ol y portreiad a welsai;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gyda’n tadau yn y diffeithwch yr oedd y babell dystiolaeth, fel y gorchmynasai yr hwn a lefarai wrth Foesen ei gwneuthur yn ôl y patrwm a welsai; hon,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd ‛pabell y dystiolaeth‛ gyda'n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi ei ddangos i Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr oedd pabell y dystiolaeth gan ein hynafiaid yn yr anialwch, fel y gorchmynnodd yr hwn a lefarodd wrth Moses ei fod i'w llunio yn l y patrwm yr oedd wedi ei weld.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tabernacl y Dystiolaeth oedd gan ein Tadau yn yr Anialwch, fel y trefnodd yr hwn a ddywedai wrth Moses i'w wneuthur yn ol y portreiad a welsai.