Acts 7:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys yr hwn tabernacl a gymerth ein tadae ac ei ducesont y mewn y gyd ac Iesu i berchenogaeth y Cenetloedd, yr ei a dd yrrawdd Dew ymaith rac wynep ein tadae, y d dyddiae Dauid:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn y bu i’n tadau, bob un yn ei dro, ei ddwyn i mewn ynghyda Iehoshua ym mherchenogaeth y cenhedloedd, y rhai a wthiodd Duw allan o flaen gwyneb ein tadau, hyd ddyddiau Dafydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ein tadau ar eu tro a’i dug i mewn gydag Iesu yn ystod goresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, — felly hyd ddyddiau Dafydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a ddarfu i'n tadau ni ei gymryd, a'i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o'r wlad yma gan Dduw, dyma nhw'n mynd â'r babell gyda nhw. Ac roedd hi'n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi ei derbyn yn eu tro, daeth ein hynafiaid hi yma gyda Josua, wrth iddynt oresgyn y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o'u blaenau. Ac felly y bu hyd ddyddiau Dafydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn hefyd a ddarfu i'n Tadau ni, wedi ei dderbyn yn olynol, ddwyn i mewn gyda Josua, pan yn cymeryd meddiant o diriogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrodd Duw allan o flaen gwyneb ein Tadau, hyd ddyddiau Dafydd;