Acts 7:49 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y nef yvv vy eisteddle, a’r ddaear yvv lleithic vy‐traet: pa d u y a adeil iad wch i mi medd yr Arglwydd? A’i pa ryvv le vyddei vy‐gorffwyffa?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Y nef sydd i Mi yn orsedd-faingc, A’r ddaear yw troed-faingc Fy nhraed. Pa fath o dŷ a adeiledwch i Mi, medd Iehofah, Neu pa le fydd lle Fy ngorphwysfa?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y nef sydd orsedd imi, a’r ddaear sydd droedfainc i’m traed; Pa dŷ a adeiledwch i mi, medd yr Arglwydd, neu pa fan fydd fy ngorffwysfa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y nef yw fy ngorseddfainc, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i'm gorffwysfa i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai'r Arglwydd. Ble dych chi'n mynd i'w roi i mi i orffwys?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa fath du375? a adeiladwch imi, medd yr Arglwydd; ble fydd fy ngorffwysfa?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y Nef yw fy Ngorsedd, A'r Ddaear yw Troedfainc fy nhraed: Pa fath dy a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd: Neu pa beth yw lle fy Nghorphwysfa i?