Acts 7:52 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pwy n o’r Prophwyti nid ymlidient eich tadae chwi? ac eu lladdasant, yr ei oedd yn ragvenegy o ddyvodiat y Cyfiawn hwnw, i ba vn y buo‐chwi yr awrhon yn vradwyr ac yn llawryddion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa un o’r prophwydi nad erlidiodd eich tadau ef? A lladdasant y rhai yn rhagfynegi am ddyfodiad y Cyfiawn, i’r Hwn chwychwi fuoch fradwyr a llofruddion,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa un o’r proffwydi nas erlidiodd eich tadau? Ie, a lladd y rhai a ragfynegodd am ddyfod y Cyfiawn; a chwithau’n awr, bradychwyr a llofruddion fuoch iddo,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa un o'r proffwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i'r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fuodd yna un proffwyd gafodd mo'i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod — sef y Meseia. A dych chi nawr wedi ei fradychu a'i ladd e!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Prun o'r proffwydi na fu'ch hynafiaid yn ei erlid? Ie, lladdasant y rhai a ragfynegodd ddyfodiad yr Un Cyfiawn. A chwithau yn awr, bradwyr a llofruddion fuoch iddo ef,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa un o'r Prophwydi ni ddarfu i'ch Tadau chwi ei erlid? A lladdasant y rhai a ragfynegasant Ddyfodiad yr Un Cyfiawn, i'r hwn y buoch chwi yn fradwyr a llofruddion;