Acts 7:55 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac efe yn gyflawn or Yspryt glan, a edrychodd‐yn ddyval ir nef, ac a welawdd ’ogogiant Dew, ac Iesu yn sefyll ar ddehaulaw Dew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn llawn o’r Yspryd Glân, ac yn edrych yn graff i’r nef, gwelodd efe ogoniant Duw a’r Iesu yn sefyll ar ddeheu-law Duw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yntau, ac ynddo’r Ysbryd Glân ei lond, syllodd tua’r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu’n sefyll ar ddeheulaw Duw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe, yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua'r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond roedd Steffan yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn llawn o'r Ysbryd Gln, syllodd Steffan tua'r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu'n sefyll ar ddeheulaw Duw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o hyd yn gyflawn o'r Yspryd Glân, ac yn edrych yn graff i'r Nef, efe a welodd Ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar Ddeheulaw Duw,