Acts 7:58 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y bwriesont ef allan o’r dinas, ac ei llapyddiesent. A’r testion a ddodesont ei dillat wrth draet y gvvas‐ ieuanc, y elwit Saul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi ei fwrw ef allan o’r ddinas, llabyddiasant ef; a’r tystion a ddodasant i lawr eu cochlau wrth draed dyn ieuangc a elwid Shawl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi ei fwrw allan o’r ddinas dechreuasant ei labyddio. A dododd y tystion eu dillad wrth draed gŵr ifanc o’r enw Saul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl ei lusgo allan o'r ddinas dyma nhw'n dechrau taflu cerrig ato i'w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a'u rhoi yng ngofal dyn ifanc o'r enw Saul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'i fwrw allan o'r ddinas, a mynd ati i'w labyddio. Dododd y tystion eu dillad wrth draed dyn ifanc o'r enw Saul.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i llabyddiasant: a'r tystion a ddodasant eu llaes‐wisgoedd uchaf wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul.