Acts 7:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Dew a lavarodd val hynn, y byddei y had ef yn ’odrigiawl mewn tir estran, ac yðwynt ei wasy, a’ bod yn ddrwc wrthaw dros petwar‐cant o vlyddyned.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llefarodd Duw wrtho fel hyn, Bydd dy had yn ymdeithydd mewn gwlad ddieithr; a chaethiwant ef, a’i ddrygu bedwar can mlynedd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llefarodd Duw fel hyn: ‘Bydd ei had yn ddyfodiaid mewn gwlad ddieithr, a cheithiwant hwynt a’u drygu bedwar can mlynedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant, bedwar can mlynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddwedodd Duw: ‘Bydd rhaid i dy ddisgynyddion di fyw fel ffoaduriaid mewn gwlad arall. Byddan nhw'n gaethweision yno, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llefarodd Duw fel hyn: 'Bydd ei ddisgynyddion yn alltudion mewn gwlad ddieithr, a chnt eu caethiwo a'u cam-drin am bedwar can mlynedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llefarodd Duw fel hyn: Y byddai ei Had ef yn ymdeithydd mewn gwlad ddyeithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant bedwar can mlynedd.