Acts 7:60 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a estyngawdd ar ei liniae, ac a lefawdd a llef vchel, Arglwydd, na ddod y pechat hyn yn ei herbyn hvvy. Ac gwedy yddaw ddywedyt hyn, yr hunawdd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dodi i lawr ei liniau, gwaeddodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi dywedyd hyn, hunodd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan benlinio gwaeddodd â llef uchel, “Arglwydd, na osod yn eu herbyn y pechod hwn.” Ac wedi dywedyd hyn, fe hunodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi'n uchel, “Arglwydd, paid dal nhw'n gyfrifol am y pechod yma.” Ac ar ôl dweud hynny, buodd farw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna penliniodd, a gwaeddodd llais uchel, "Arglwydd, paid dal y pechod hwn yn eu herbyn." Ac wedi dweud hynny, fe hunodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi dywedyd hyn, efe a hunodd.