Acts 7:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a roðes iddaw ddygymbot yr enwaediat: ac velly Abraham a genetlodd Isaac, ac a enwaedoð arno yr wythfet dydd: ac Isaac a gavas Iaco, ac Iaco a enillavvdd y deuddec Patria i rch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
deuant allan, a gwasanaethant Fi yn y lle hwn. A rhoddes Efe iddo gyfammod amdorriad; ac felly y cenhedlodd efe Itsaac, ac amdorrodd ef yr wythfed dydd; ac Itsaac a genhedlodd Iacob, ac Iacob y deuddeg patriarch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhoddes iddo gyfamod enwaediad, ac felly y ganed iddo Isaac ac yr enwaedodd arno yr wythfed dydd, ac i Isaac Iacob, ac i Iacob y deuddeg patriarch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o'r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe'n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rhoddodd iddo gyfamod enwaediad. Felly, wedi geni iddo Isaac enwaedodd arno yr wythfed dydd. Ac i Isaac ganwyd Jacob, ac i Jacob y deuddeg patriarch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a roddodd iddo Gyfamod yr Enwaediad: ac felly efe a genedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd; ac Isaac, Jacob; a Jacob y Deuddeg Patriarch.