Acts 8:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC Saul a gytsynniesei am y varwolaeth ef. A’r dyddgwaith hwnw, y bu ymlit dirvawr ar yn Eccles, yr hon yt oedd yn‐Caerusalem, ac ydd oeddent yvv oll wedy ei goyscary rhyd gwledydd Iudaia a’ Samareia, dyeithyr yr Apostolon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a Shawl oedd yn cydsynied i’w ddistryw ef. A chyfododd y dydd hwnw erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Ierwshalem, a’r oll o honynt a wasgarwyd trwy barthau Iwdea a Shamaria, namyn yr apostolion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuodd erlid mawr y dydd hwnnw ar yr eglwys yng Nghaersalem; ac fe’u gwasgarwyd oll trwy gylchoedd Iwdea a Samaria, oddieithr yr apostolion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul oedd yn cytuno i'w ladd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem: a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria, ond yr apostolion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Saul yno, yn cytuno'n llwyr y dylai Steffan farw. O'r diwrnod hwnnw ymlaen dechreuodd yr eglwys yn Jerwsalem gael ei herlid yn ffyrnig, a dyma pawb ond yr apostolion yn gwasgaru drwy Jwdea a Samaria.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Saul yn cydsynio 'i lofruddio. Y diwrnod hwnnw dechreuodd erlid mawr ar yr eglwys yn Jerwsalem. Gwasgarwyd hwy, pawb ond yr apostolion, trwy barthau Jwdea a Samaria.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Saul oedd yn cydsynio i'w ladd ef. A bu y dydd hwnw erlid mawr ar yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Judea a Samaria, oddi gerth yr Apostolion.