Acts 8:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Simon ynt ef hefyt a gredawdd ac a vatyddiwyt, ac a ddy lynawdd Philip, ac a chwithawdd arno, pan welawdd yr arwyddion ar gwyrthiae mawrion r’ ei wnaethoeddit. Yr Epistol ddie Marth y Sul gwyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a Shimon, yntau hefyd a gredodd, ac wedi ei fedyddio, a barhaodd ynghyda Philip; a chan weled yr arwyddion a’r gwyrthiau mawrion a wneid, synnodd arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A Simon ei hun yntau a gredodd, ac wedi ei fedyddio bu ddyfal ei lynu wrth Phylip, ac wrth weled gwneuthur arwyddion a grymusterau mawr, fe synnai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Simon yntau hefyd a gredodd; ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip: a synnodd arno wrth weled yr arwyddion a'r nerthoedd mawrion a wneid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna credodd Simon ei hun a chael ei fedyddio. Ac roedd yn dilyn Philip i bobman, wedi ei syfrdanu'n llwyr gan y gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos mor glir fod Duw gyda Philip.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Credodd Simon ei hun hefyd, ac wedi ei fedyddio yr oedd yn glynu'n ddyfal wrth Philip; wrth weld arwyddion a gweithredoedd nerthol yn cael eu cyflawni, yr oedd yn synnu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Simon, yntau hefyd a gredodd, ac, wedi ei fedyddio a ddyfalbarhaodd gyda Philip: ac wrth weled yr arwyddion a'r galluoedd mawrion a wnelid, efe a synodd.