Acts 8:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glybu yr Apostolon oedd yn‐Caerusalem, dd erbyn o Samareia ’air Dew, ys anvonesont attwynt Petr ac Ioan:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed o’r apostolion oedd yn Ierwshalem, y derbyniasai Shamaria Air Duw, danfonasant attynt Petr ac Ioan,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i’r apostolion yng Nghaersalem glywed i Samaria dderbyn gair Duw anfonasant atynt Bedr ac Ioan;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod pobl yn Samaria wedi credu'r neges am Dduw, dyma nhw'n anfon Pedr ac Ioan yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod Samaria wedi derbyn Gair Duw, anfonasant atynt Pedr ac Ioan,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu yr Apostolion oedd yn Jerusalem fod Samaria wedi derbyn Gair Duw, hwy a anfonasant atynt Petr ac Ioan: