Acts 8:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(Can na ddaethei ef eto ar yr vn o hāwynt, amyn ei batyddiaw a wnaethit yn vnic yn Enw yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ar dderbyn o honynt yr Yspryd Glân, canys hyd yn hyn nid oedd Efe wedi syrthio ar neb o honynt, ac nid oeddynt ond wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt; wedi eu bedyddio yn unig yr oeddynt i enw yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
achos doedd yr Ysbryd Glân ddim wedi disgyn arnyn nhw eto. Y cwbl oedd wedi digwydd oedd eu bod wedi cael eu bedyddio fel arwydd eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd nid oedd eto wedi disgyn ar neb ohonynt, dim ond eu bod wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys hyd yn hyn nid oedd wedi syrthio ar neb o honynt, ond yn unig yr oeddent wedi eu bedyddio i enw yr Arglwydd Iesu.