Acts 8:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pan welawdd Simon, mae trwy ’osot dwylaw yr Apostolon y dodit yr Yspryt glan, e gynygawdd yddwynt ariant,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o Shimon mai trwy osodiad dwylaw yr apostolion y rhoddwyd yr Yspryd Glân,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i Simon weled mai trwy arddodiad dwylo’r apostolion y rhoid yr ysbryd, fe ddug iddynt dâl,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo'r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan roedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Simon mai trwy arddodiad dwylo'r apostolion y rhoddid yr Ysbryd, cynigiodd arian iddynt,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Simon, yn gweled mai trwy osodiad dwylaw yr Apostolion y rhoddid yr Yspryd Glân, a ddygodd arian iddynt,