Acts 8:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nid oes yty ran na chymdeithas yn y devnyð hwn: can nad yw dy galon yn vnion geyr bron Dew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid oes i ti na rhan nac etifeddiaeth yn y peth hwn, canys dy galon nid yw uniawn ger bron Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid oes i ti ran na chyfran yn hyn o beth, canys dy galon nid yw’n union ger bron Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does gen ti ddim rhan yn y gwaith — dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes iti ran na chyfran yn hyn o beth, oblegid nid yw dy galon yn uniawn yng ngolwg Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid oes i ti na rhan nac etifeddiaeth yn y mater hwn: canys nid yw dy galon yn uniawn gyda Duw.