Acts 8:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atebawdd Simon ac y dyvot, Gweddiw‐chwi drosof ar yr Arglwyð, na bo i ddim o hyn a ddywed e soch, ðyvot arnaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, Shimon a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof at yr Arglwydd na bo i ddim ddyfod arnaf o’r pethau a ddywedasoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Simon, a dywedodd, “Erfyniwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd na ddêl arnaf ddim o’r hyn a ddywedasoch.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o'r pethau a ddywedasoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai Simon, “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Simon, "Gweddwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddaw arnaf ddim o'r pethau a ddywedsoch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Deisyfwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddel dim arnaf o'r pethau yr ydych wedi eu dywedyd.