Acts 8:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly wynt vvy gwedy yðwynt testio a’ lavaru gair yr Arglwyð, a ymchwelesont y Caerusalem, ac a precethesont‐yr‐Euangel yn llawer o ddinasoedd y Samareieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, gan hyny, wedi tystiolaethu a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Ierwshalem, ac i lawer o bentrefi y Shamariaid yr efengylasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwythau, wedi iddynt ddwys dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant yn ôl i Gaersalem, a chyhoeddi’r newydd da yn llawer o bentrefi’r Samariaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a bregethasant yr efengyl yn llawer o bentrefi'r Samariaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl tystiolaethu a chyhoeddi neges Duw yn Samaria, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Ond ar eu ffordd dyma nhw'n galw yn nifer o bentrefi'r Samariaid i gyhoeddi'r newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hwythau, wedi iddynt dystiolaethu a llefaru gair yr Arglwydd, cychwynasant yn l i Jerwsalem, a chyhoeddi'r newydd da i lawer o bentrefi'r Samariaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwythau yn wir gan hyny, wedi iddynt dystiolaethu a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Jerusalem, ac a bregethasant i lawer o bentrefi y Samariaid.