Acts 8:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Angel yr Arglwydd a lavarodd wrth Philip, gan ddywedyt, Cyvot, a’ cherdd tu a’r Dehau ir ffordd ’sy yn mynet y waeret o Gaerusalem i ddinas Gaza, yr hon ’sy yn ðyffaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod a dos tua’r dehau i’r ffordd sy’n myned i wared o Ierwshalem i Gaza, yr hon sydd anial.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Phylip, gan ddywedyd, “Cyfod a dos tua’r dehau dros y ffordd sy’n mynd i lawr o Gaersalem i Gasa.” (Ffordd unig yw hon.)
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua'r deau, i'r ffordd sydd yn myned i waered o Jerwsalem i Gasa, yr hon sydd anghyfannedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i'r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llefarodd angel yr Arglwydd wrth Philip: "Cod," meddai, "a chymer daith tua'r de, i'r ffordd sy'n mynd i lawr o Jerwsalem i Gasa." Ffordd anial yw hon.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua'r Deheu i'r ffordd sydd yn myned i waered o Jerusalem i Gaza: yr hon sydd anial.