Acts 8:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a gyvodes ac aeth rac ddaw: ac wele ryw Eunuch o Ethiopia sef Raglaw Candace Brēhines yr Ethiopiait, yr hwn oeð yn llywodraethy y oll drysor hei, ac oedd yn dyvot i Gaerusalem y addoly.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cyfodi yr aeth; ac wele, gŵr o Ethiopia, swyddwr galluog i Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Ierwshalem i addoli;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd a mynd; a dyna ŵr o Ethiop, eunuch, un o wyrda Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ben ar ei holl drysor hi; deuthai i Gaersalem i addoli,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gyfododd, ac a aeth. Ac wele, gŵr o Ethiopia, eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, yr hwn a ddaethai i Jerwsalem i addoli;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Philip ar unwaith, a phan oedd ar ei ffordd dyma fe'n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace, sef Brenhines Ethiopia — fe oedd pennaeth ei thrysorlys. Roedd wedi bod yn Jerwsalem yn addoli Duw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd yntau ac aeth. A dyma u373?r o Ethiop, eunuch, swyddog uchel i Candace brenhines yr Ethiopiaid, ac yn ben ar ei holl drysor hi; yr oedd hwn wedi dod i Jerwsalem i addoli,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gyfododd ac a aeth: ac wele gwr o Ethiop, Eunuch, swyddog uchel i Candace, brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor hi, oedd wedi dyfod i addoli i Jerusalem;