Acts 8:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Philip a redawdd attaw, ac ei clywodd yn darllen y Prophet Esaias, ac a ddyvot. A ddeelly di yr hynn ydd wyt yn ei ddarllen?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi rhedeg atto, Philip a glywodd ef yn darllen Eshaiah y prophwyd, a dywedodd, A wyt ti ysgatfydd yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhedodd Phylip ato, a chlywodd ef yn darllen Esaias y proffwyd, a dywedodd, “A wyt ti’n deall yr hyn a ddarlleni?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Philip a redodd ato, ac a'i clybu ef yn darllen y proffwyd Eseias; ac a ddywedodd, A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, “Wyt ti'n deall beth rwyt ti'n ei ddarllen?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhedodd Philip ato a chlywodd ef yn darllen y proffwyd Eseia, ac meddai, "A wyt ti'n deall, tybed, beth yr wyt yn ei ddarllen?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Philip a redodd ato, ac a'i clywodd ef yn darllen Esaiah y Prophwyd, ac a ddywedodd, A wyt ti o gwbl yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen?