Acts 8:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot, Py wedd y metraf, o ðiethyr bot ryw vn im arwein ir ffordd? Ac ef deisyvawdd ar Philip escen y vyny dd, ac eistedd gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd, Canys pa fodd y gallaf oddieithr i ryw un fy nghyfarwyddo? A dymunodd ar Philip ddyfod i fynu ac eistedd gydag ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “Pa fodd, tybed, y gallaf, oni’m cyfarwydda rhywun?” Ac fe ddymunodd ar Phylip ddyfod i fyny ac eistedd gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fyny, ac eistedd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” meddai'r dyn. Felly gofynnodd i Philip fynd i eistedd yn y cerbyd gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau, "Wel, sut y gallwn i, heb i rywun fy nghyfarwyddo?" Gwahoddodd Philip i ddod i fyny ato ac eistedd gydag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddi eithr i rywun fy nghyfarwyddo i? ac efe a wahoddodd Philip i fyned i fyny ac eistedd gydag ef.