Acts 8:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r lle, or Scrythur ydd oedd ef yn ei ddarllen yt oedd hwn, Ef a arwenit mal davat ir lladdfa: ac mal oen mut ger‐bron ei gneifiwr, velly nid agorai ef ei enae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r lle o’r Ysgrythyr yr hwn a ddarllenai oedd hwn, “Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef, Ac fel oen ger bron ei gneifiwr yn fud, Felly nid agorodd ei enau:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hon oedd yr adran ysgrythur a ddarllenai: Fel dafad i’r lladdfa y dygwyd ef, ac fel oen ger bron a’i cneifia, yn fud, felly nid egyr ei enau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r lle o'r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Fel dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r adran o'r ysgrifau sanctaidd roedd yr eunuch yn ei ddarllen: “Cafodd ei arwain fel dafad i'r lladd-dy. Yn union fel mae oen yn dawel pan mae'n cael ei gneifio, wnaeth e ddweud dim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A hon oedd yr adran o'r Ysgrythur yr oedd yn ei darllen: "Arweiniwyd ef fel dafad i'r lladdfa, ac fel y bydd oen yn ddistaw yn llaw ei gneifiwr, felly nid yw'n agor ei enau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r adran o'r Ysgrythyr yr oedd yn ei darllen oedd hon: Fel dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef; Ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud, Felly nid yw yn agor ei enau: