Acts 8:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn ei ’oystyngeiddrwydd yd archafwyt ei varne digeth: a’ phwy a venaic ei ’enedigaeth? can ys dugir ei vuchedd oyar y ddaear.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ei ostyngiad ei farn a ddygpwyd ymaith, Ei genhedlaeth ef pwy a fynega, Canys dygir ymaith ei fywyd oddiar y ddaear?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am ei ostyngeiddrwydd ei brawf a omeddwyd iddo; ei genhedlaeth, pwy a’i traetha? canys cipir ei fywyd oddiar y ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymaith: eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd ei gam-drin heb achos llys teg. Sut mae'n bosib sôn am ddisgynyddion iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ei ddarostyngiad gomeddwyd iddo farn. Pwy all draethu am ei ddisgynyddion? Oherwydd cymerir ei fywyd oddi ar y ddaear."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ei Ddarostyngiad ei farn a dynwyd ymaith: Pwy a ddesgrifia ei genedlaeth ef? Canys dygir ymaith oddiar y ddaear ei fywyd ef.