Acts 8:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gorchymynodd ef bot sefyll o’r cerbyt: ac vvy ddescenesont ill dau ir dw f r, a’ Philip a’r Eunuch, ac ef ei batiddiawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gorchymynodd sefyll o’r cerbyd. Ac aethant i wared ill dau i’r dwfr, Philip ac yr eunuch; a bedyddiodd efe ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe orchmynnodd i’r cerbyd aros, ac aethant i lawr ill dau i’r dŵr, Phylip a’r eunuch, ac fe’i bedyddiodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a orchmynnodd sefyll o'r cerbyd: a hwy a aethant i waered ill dau i'r dwfr, Philip a'r eunuch; ac efe a'i bedyddiodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd orchymyn i'r cerbyd stopio. Wedyn aeth gyda Philip i lawr i'r dŵr, a dyma Philip yn ei fedyddio yn y fan a'r lle.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gorchmynnodd i'r cerbyd sefyll, ac aethant i lawr ill dau i'r du373?r, Philip a'r eunuch, ac fe'i bedyddiodd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a orchymynodd sefyll o'r cerbyd a hwy a aethant i waered ill dâu i'r dwfr, Philip a'r Eunuch, ac efe a'i bedyddiodd ef.