Acts 8:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r popul a ddalioð ar yr hyn a ddywedei Philip, o vnvryd, yn gwrandaw ac yn gweled y gwyrthiae ’r ei wnaethei ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r torfeydd a ddaliasant sylw ar y pethau a ddywedid gan Philip, yn unfryd, wrth eu clywed hwynt a gweled yr arwyddion a wnelai efe;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daliai’r torfeydd yn unfryd ar yr hyn a ddywedai Phylip, wrth glywed ohonynt a gweled yr arwyddion a wnâi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol oedd e'n eu gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y tyrfaoedd yn dal yn unfryd ar eiriau Philip, wrth glywed a gweld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r tyrfaoedd yn unfryd a dalasant sylw i'r pethau a ddywedid gan Philip, pan yn clywed a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur.