Acts 8:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oeð o’r blaen yn y dinas neb gwr aei enw Simon, yr hwn yt oedd swynwr, ac a ampwyllesei bopul Samareia, gan ðywedyt, e vot ehun yn ryvv vvr mawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond rhyw ddyn a’i enw Shimon oedd o’r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn peri syndod i genedl Shamaria, gan ddywedyd ei fod efe ei hun yn rhywun mawr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd eisoes ryw ŵr a’i enw Simon yn y ddinas, yn swyna, ac yn synnu cenedl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef yn rhywun mawr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhyw ŵr a'i enw Simon, oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y dre honno roedd dewin o'r enw Simon wedi bod yn ymarfer ei swynion ers blynyddoedd, ac yn gwneud pethau oedd yn rhyfeddu pawb yn Samaria. Roedd yn ystyried ei hun yn rhywun pwysig dros ben.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd rhyw u373?r o'r enw Simon eisoes yn y ddinas yn dewino ac yn synnu cenedl Samaria. Yr oedd yn dweud ei fod yn rhywun mawr,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr rhyw wr o'r enw Simon oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn synu pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhyw Un Mawr;