Acts 9:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oeð nep discipul yn Damasco ’r y elwit Ananias, ac wrthaw y dyvot yr Arglwydd drwy weledigaeth, Ananias, ac ef a ddyvot, Wele, d’yma vi Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Damascus a’i enw Ananias; ac wrtho, mewn gweledigaeth, y dywedodd yr Arglwydd, Ananias; ac efe a ddywedodd, Wele, myfi, Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus a’i enw Ananias, ac fe ddywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a'i enw Ananeias: a'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn byw yn Damascus roedd disgybl o'r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o'r Arglwydd yn galw arno — “Ananias!” “Ie, Arglwydd,” atebodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus o'r enw Ananias, a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef mewn gweledigaeth, "Ananias." Dywedodd yntau, "Dyma fi, Arglwydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd rhyw ddysgybl yn Damascus o'r enw Ananias; a dywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, Ananias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd.