Acts 9:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(Ac ef a welai drwy weledigaeth ’wr a enwit Ananias yn dyvot y mewn attaw, ac yn dody ei ddwylaw arnaw, y gahel o honaw ei ’olwc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ananias wrth ei enw, wedi dyfod i mewn a dodi arno ei ddwylaw fel y gwelai eilwaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananias yn dyfod i mewn ac yn dodi ei ddwylo arno, fel y caffai ei olwg yn ôl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a'i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o'r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ddyn o'r enw Ananias yn dod i mewn ac yn rhoi ei ddwylo arno i roi ei olwg yn l iddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a gwelodd mewn gweledigaeth wr o'r enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei ddwylaw arno, fel y gwelai drachefn.